Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus (Cymru) | Y Rhwydwaith Maethu

Cyflog: £27,405 - £32,480

Oriau: 35

Lleoliad: Mae hon yn rôl hybrid, gyda theithio i’n swyddfa yng Nghaerdydd o leiaf unwaith yr wythnos.

Pwy ydym

Y Rhwydwaith Maethu yw prif elusen faethu a sefydliad maethu i aelodau yn y Deyrnas Unedig, sy’n ymroddedig i rymuso, cyfoethogi a chynorthwyo’r perthnasoedd wrth graidd y gymuned faethu.

Am bwy rydym yn chwilio

Chwiliwn am Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus yng Nghymru i ymuno â’n tîm polisi ac ymgyrchoedd hynod effeithiol trwy’r Deyrnas Unedig i gyd.  Gyda maethu’n uchel ar yr agenda wleidyddol yng Nghymru, ac etholiadau’n cael eu cynnal yn y Senedd y flwyddyn nesaf, dyma amser cyffrous i ymuno â’r sefydliad.

Fe fyddwch yn angerddol dros wella gofal cymdeithasol plant a gofal maeth i blant.  Bydd gennych wybodaeth am y dirwedd bolisi a deddfwriaethol yng Nghymru ac am faterion yn ymwneud â gofal cymdeithasol plant.  Bydd gennych brofiad o gyflawni ymgyrchoedd sy’n ennyn diddordeb ac o ddatblygu peirianweithiau i gynorthwyo pobl sydd â phrofiad bywyd i ymgyrchu, yn neilltuol pobl ifanc, gan fod y rôl hon yn cynorthwyo’n bwrdd cynghori pobl ifanc.

Fe fyddwch yn fedrus wrth ddylanwadu ar lunwyr polisi yn y llywodraeth ac yn seneddau’r Deyrnas Unedig, yn ogystal ag yn gallu datblygu datrysiadau polisi creadigol i greu newid.  Bydd gennych brofiad sylweddol o ddadansoddi ac o gynnal ymchwil ac o gynhyrchu deunyddiau ysgrifenedig o ansawdd uchel, yn seiliedig ar dystiolaeth.

Fe fyddwch yn gyfathrebwr gwych ac yn gallu magu perthnasoedd gyda rhanddeiliaid o bob lefel, yn cynnwys seneddwyr, unigolion uwch yn y llywodraeth a phobl sydd â phrofiad bywyd.

Mae manyleb y person yn rhoi manylion y meini prawf hanfodol a manteisiol yn llawn.

Yr hyn y byddwch yn ei wneud

Cewch y cyfle i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer i greu newid parhaol i ofalwyr maeth a phlant a phobl ifanc mewn gofal maeth.

Bydd y rôl yn cynnwys dylanwadu ar brosesau seneddol a llunio penderfyniadau yng Nghymru, a chyfrannu tuag at brosiectau trwy’r Deyrnas Unedig i gyd.  Bydd y rôl yn darparu ymgyrchoedd effeithiol, prosiectau ymchwil allweddol a chynnwys ysgrifenedig i’n haelodau.

Erbyn hyn, gobeithiwn eich bod yn teimlo’n llawn cyffro am y disgrifiad o’r swydd rydych yn ei ddarllen.  

Hyd yn oed os nad ydych yn teimlo eich bod yn bodloni pob un gofyniad, rydym yn dal i’ch annog i ymgeisio.

Yr hyn y gallwn ei gynnig ichi

  • 38 diwrnod o wyliau (yn cynnwys gwyliau’r banc)
  • Ystod o opsiynau absenoldeb sy’n ystyriol o deulu ac sy’n ystyriol o faethu
  • Gweithio hyblyg a hybrid
  • Tâl mamolaeth a mabwysiadu uwch
  • Tâl salwch uwch
  • Llinell Gymorth Cymorth i Weithwyr 24/7
  • Pensiwn ac aswiriant bywyd
  • Cyfraniad tuag at brofion llygaid a lensys
  • Benthyciadau tocynnau tymor.

Ein hymrwymiadau i chi

Mae’r Rhwydwaith Maethu wedi’i ymrwymo i gyfle cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned ac yn enwedig gan y rheiny o gefndiroedd nas cynrychiolir yn ddigonol a lleiafrifiedig.  Ystyrir pob cais a phenderfyniad cyflogi ar sail teilyngdod.

  • Os ydych yn uniaethu fel person â phrofiad gofal ac os ydych yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y rôl, fe’ch sicrheir o gyfweliad o dan ein hymrwymiad i’r Cyfamod Pobl sy’n Gadael Gofal
  • Os oes gennych anabledd, cofiwch ddweud wrthym pa addasiadau rhesymol fyddai’n cynorthwyo’ch cyfranogiad o’r broses recriwtio
  • Rydym yn fodlon ystyried trefniadau rhannu swydd ar gyfer pob rôl.  Dynodwch hyn, os gwelwch yn dda, yn y ffurflen gais os ydych yn ymgeisio fel rhan o rannu swydd

Chwilio am fwy o wybodaeth?

I gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â [email protected].  

Yn barod i ymgeisio?

I ymgeisio, e-bostiwch eich ffurflen gais wedi’i chwblhau at [email protected].  CVs will not be accepted.

Dyddiad Cau: Hanner nos, dydd Sul, y 27ain o Orffennaf

Dyddiad Llunio Rhestr Fer: Wythnos sy’n dechrau ar y 31ain o Orffennaf

Dyddiad y Cyfweliad: 4ydd o Awst

Lleoliad y Cyfweliad: Ein swyddfa yng Nghaerdydd

Edrychwn ymlaen at glywed gennych!

Swyddfa Gofrestredig Y Rhwydwaith Maethu: 87, Blackfriars Road, Llundain SE1 8HA. Elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr 280852 ac yn yr Alban SC039338 Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr fel cwmni cyfyngedig, rhif 1507277 Rhif Cofrestru TAW 231 6335 90 thefosteringnetwork.org.uk