Traddodir y sesiwn hon gan Holly Joyce, Therapydd Chwarae a Mabol ac Ymarferwr Gwaith Stori Bywyd Therapiwtig.
Yn y weminar am ddim hon i ofalwyr maeth, byddwn yn archwilio’r rôl hanfodol sydd gan chwarae mewn lles a datblygiad emosiynol. Byddwn yn darganfod sut mae chwarae yn cynorthwyo rheoleiddio emosiynol, a byddwn yn meddwl am sut y gall gorbryder darfu ar y gallu i gymryd rhan mewn chwarae. Byddwn yn archwilio cyfnodau chwarae datblygiadol a pham mae chwarae yn parhau’n hanfodol trwy gydol pob cyfnod o fywyd. Yn ychwanegol at ddeall elfennau craidd chwarae therapiwtig, byddwn yn nodi technegau chwarae a all hyrwyddo rheoleiddio emosiynol ac ymdeimlad esmwythaol o lonyddwch.
Bydd y weminar hon yn cynnwys:
- Pam mae chwarae yn bwysig i iechyd a cydnerthedd emosiynol;
- Rheoleiddio emosiwn a sut mae gorbryder yn herwgipio chwarae;
- Elfennau allweddol o chwarae therapiwtig;
- Chwarae datblygiadol, pam mae’n bwysig i blant (ac oedolion) o unrhyw oed, a sut i ddarparu
ar ei gyfer; - Yr agwedd berthynol o chwarae, a dod ag ymwybyddiaeth i’r sgiliau craidd sydd eu hangen i
hwyluso chwarae sy’n tawelu ac yn rheoleiddio; - Canfod beth i gadw llygad arno mewn plant a all elwa o gymorth arbenigol, a sut a pha bryd i
atgyfeirio; - Holi ac Ateb.
Digwyddiadau cysylltiedig
Gweld y cyfanPwy Ydw i – Gweminar Hunaniaeth Pobl Ifanc yn eu Harddegau
Gweminar am ddim i ofalwyr maeth yng Nghymru

Cothu (Northern Ireland only)
