Traddodir y sesiwn hon gan Holly Joyce, Therapydd Chwarae a Mabol ac Ymarferwr Gwaith Stori Bywyd Therapiwtig.
Yn y weminar am ddim hon i ofalwyr maeth, byddwn yn archwilio’r rôl hanfodol sydd gan chwarae mewn lles a datblygiad emosiynol. Byddwn yn darganfod sut mae chwarae yn cynorthwyo rheoleiddio emosiynol, a byddwn yn meddwl am sut y gall gorbryder darfu ar y gallu i gymryd rhan mewn chwarae. Byddwn yn archwilio cyfnodau chwarae datblygiadol a pham mae chwarae yn parhau’n hanfodol trwy gydol pob cyfnod o fywyd. Yn ychwanegol at ddeall elfennau craidd chwarae therapiwtig, byddwn yn nodi technegau chwarae a all hyrwyddo rheoleiddio emosiynol ac ymdeimlad esmwythaol o lonyddwch.
Bydd y weminar hon yn cynnwys:
- Pam mae chwarae yn bwysig i iechyd a cydnerthedd emosiynol;
- Rheoleiddio emosiwn a sut mae gorbryder yn herwgipio chwarae;
- Elfennau allweddol o chwarae therapiwtig;
- Chwarae datblygiadol, pam mae’n bwysig i blant (ac oedolion) o unrhyw oed, a sut i ddarparu
ar ei gyfer; - Yr agwedd berthynol o chwarae, a dod ag ymwybyddiaeth i’r sgiliau craidd sydd eu hangen i
hwyluso chwarae sy’n tawelu ac yn rheoleiddio; - Canfod beth i gadw llygad arno mewn plant a all elwa o gymorth arbenigol, a sut a pha bryd i
atgyfeirio; - Holi ac Ateb.
Digwyddiadau cysylltiedig
Gweld y cyfanCothu

Ygam: Gweithdy Ymwybyddiaeth Ac Atal Niwed O Chwarae Gemau Cyfrifiadurol A Gamblo - Cefnogi Plant Mewn Gofal
Dydd Mercher 17 Medi 19:00 - 21:30 Mae Ygam yn cynnig gweithdai wedi'u hariannu'n llawn sydd wedi'u cynllunio ar gyfer gofalwyr maeth, staff gofal preswyl plant a thimau sy'n cefnogi plant mewn gofal.