Gweminar Archwilio Llencyndod -Syniadau am Rywedd

Nodwch fod y weminar hon ar gyfer gofalwyr maeth yng Nghymru yn unig.

 

Cynhelir y weminar ar-lein trwy gyfrwng Teams.  Anfonwn ragor o fanylion unwaith y caiff bwciadau eu cadarnhau.

 

Traddodir y sesiwn hon gan Llwybrau Newydd.

Mae’r weminar am ddim hon ar gyfer gofalwyr maeth yn darparu cyflwyniad eglur ac ymarferol i ddealltwriaeth yn ymwneud â syniadau am rywedd a rolau rhywedd.  Mae’n archwilio sut y gall y credoau hyn ddatblygu trwy ddiwylliant, cyfryngau cymdeithasol, dylanwad cymheiriaid ac algorithmau, a sut y gallant ymddangos yn iaith, ymddygiad neu ddisgwyliadau pobl ifanc ohonynt eu hunain ac o eraill.

Bydd y weminar yn archwilio effaith ddichonol rolau rhywedd ar les, perthnasoedd a datblygiad emosiynol, a bydd yn cryfhau hyder gofalwyr o ran cael ymatebion digyffro a chefnogol.

Amcanion Dysgu

• Datblygu dealltwriaeth fwy eglur o dermau a naratifau cyffredin yn ymwneud â rhywedd.
• Cynyddu ymwybyddiaeth o ddylanwadau ar-lein a chymdeithasol ar syniadau am rywedd. 
• Adnabod effaith ddichonol ar les a hunaniaeth pobl ifanc.
• Magu hyder wrth ymateb mewn ffordd ddiogel, gefnogol.
• Deall pa bryd a sut i gael at ragor o gymorth. 

 

Neilltuo’ch lle am ddim: Disgwyliwn i’r weminar fod yn boblogaidd, ac felly bwciwch yn gynnar, os gwelwch yn dda, i sicrhau’ch lle.  

cyhoeddus 04 Meh 26 - 04 Meh 26 10:00 - 12:00 Gweminar Free
Archebwch

Digwyddiadau cysylltiedig

Gweld y cyfan
Loading...
aelod

Decision making in fostering and carer medicals: what the biggest challenges teach us and how best practice can be achieved

Archwilio nawr
Panels Webinar
Free (member only event)
13 Mai 2026
Virtual
Gweminar
aelod

John Lewis Foster Care Fortnight Celebration: Edinburgh

Archwilio nawr
FCF26 Facebook Header English
Free
13 Mai 2026
John Lewis Edinburgh
Foster Care Fortnight