Crëwyd y sesiwn mewn cydweithrediad â phobl ifanc o’r gymuned LHDTC+, gan gymryd persbectif gwaith ieuenctid ac adlewyrchu’u profiadau bywyd, eu heriau a’u hanghenion.
Nod y sesiwn yw cynyddu dealltwriaeth o brofiadau pobl ifanc LHDTC+, a sut y gallant gael eu cynorthwyo’n well mewn rhinwedd broffesiynol.
Amcanion y Sesiwn:
- Cynyddu dealltwriaeth o derminoleg gyffredin a’i phwysigrwydd yn gysylltiedig â hunaniaethau LHDTC+
· Dealltwriaeth o, ac ymateb i Ddod Allan
- Gwella ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu pobl ifanc LHDTC+
- Hawliau LHDTC+ (Nodweddion gwarchodedig, Trosedd Gasineb)
- Darparu man cefnogol i archwilio effaith naratifau cymdeithasol mwy cyffredinol (normau), a sut y gall yr Ymagwedd Ymyrraeth gan Wyliedydd (Bystander Intervention Approach) gynorthwyo i greu mannau diogelach
- Nodi pwyntiau allweddol i’w dysgu ar gyfer ymarfer proffesiynol i wella profiad cymorth pobl ifanc LHDTC+.
Neilltuwch eich lle am ddim: Disgwyliwn i’r weminar fod yn boblogaidd, ac felly neilltuwch eich lle yn gynnar i sicrhau’ch lle, os gwelwch yn dda. Nodwch fod y weminar hon ar gyfer gofalwyr maeth yng Nghymru yn unig, os gwelwch yn dda.
cyhoeddus
09 Tach 26 - 09 Tach 26
19:00 - 21:30
Gweminar
Free
Digwyddiadau cysylltiedig
Gweld y cyfan
aelod
Focus Group: Working Together to Safeguard Children Consultation – LADO Remit & MACPTs
Archwilio nawr

Free member webinars
20 Awst 2026
Virtual
Gweminar
aelod
Understanding Protective Care and Best Practice for Managing Allegations in Fostering
Archwilio nawr

£110 plus VAT
26 Awst 2026
Virtual
Protective Care